Skip to main content

Rwyf wedi derbyn dirwy barcio!

Mae MiPermit yn system dalu ar gyfer trwyddedau digidol a pharcio heb arian parod. Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i awdurdodau parcio, nid ydym yn patrolio, gorfodi nac yn cyflwyno dirwyon ar eu rhan.

Os ydych wedi derbyn HTC (Hysbysiad Tâl Cosb/Parcio) wrth ddefnyddio ein gwasanaethau ac rydych yn teimlo y cyflwynwyd y ddirwy ar gam, dylech yn gyntaf gasglu tystiolaeth a chyflwyno hyn i’r awdurdod parcio gan ddefnyddio’r manylion sydd ar yr HTC. Gall hyn fod yn ddolen at eu gwefan neu gyfeiriad y gallwch ysgrifennu iddo. Mae’n rhaid gwneud apeliadau yn ysgrifenedig bob tro a’u cyflwyno i’r gweithredwr parcio ac nid i MiPermit.

Dylech gasglu tystiolaeth sy’n profi i’r gweithredwr parcio eich bod wedi talu am barcio neu fod gennych drwydded ddilys i barcio ar adeg y tramgwydd; yn yr achos hwn, bydd lluniau sgrin o negeseuon SMS, derbynebau neu rifau trwydded o fudd i chi yn eich her. Os derbynioch HTC am unrhyw beth ond am beidio â thalu neu beidio â dal trwydded ddilys (megis parcio’r tu allan i gilfach barcio), dylech gyflwyno tystiolaeth eich hunan. 

Mae gweithredwyr parcio sy’n defnyddio MiPermit ar gyfer taliadau a thrwyddedau’n gallu edrych ar ein systemau i weld a fu ymgais deg i dalu am barcio ar eich rhan er mwyn iddynt allu ymateb i’ch her. Os na all y gweithredwr ddod o hyd i’r fath dystiolaeth, bydd yn cysylltu â MiPermit i ymchwilio ymhellach.

Nid yw MiPermit yn rhan o’r broses wneud penderfyniadau ynghylch HTCau a gyflwynir ac a ddylid eu dileu ai peidio; fodd bynnag, rydym yn fodlon rhoi tystiolaeth ffeithiol i chi os oes arnoch ei hangen.