Skip to main content

Newid eich Manylion Talu ar gyfer Parcio Talu ac Aros

Gallwch newid manylion eich cerdyn talu trwy borthol MiPermit neu trwy’r appiau iOS neu Android.

Mewngofnodwch i borthol MiPermit a dewiswch yr opsiwn ‘Manylion Talu’. Yn yr adran ‘Manylion Talu Diogel’ cewch ddewis i ddileu eich dull talu neu ei addasu. Bydd addasu’r manylion talu’n gofyn i chi roi manylion eich cerdyn a dewis pa fasnachwyr rydych am awdurdodi iddynt gymryd taliad (mae rhagor o wybodaeth am hyn ar y sgrin honno).

Sylwch nad ydym yn cadw manylion eich cerdyn. Anfonir y manylion a rowch yn syth i’n darparwr taliadau ac rydym yn derbyn cod awdurdodi wedi'i amgryptio y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer taliadau yn y dyfodol.