Skip to main content

Cais am Ad-daliadau

Ad-daliadau Talu ac Aros

Ni ellir ond rhoi ad-daliad os cyflwynir tystiolaeth y gwnaed dau daliad am yr un peth ar yr un diwrnod neu y bu camgymeriad a barodd ordaliad. Os ydych yn talu am barcio ac yn gweld nad oes angen yr holl amser a brynwyd arnoch, nid oes modd rhoi ad-daliad heb i’r gweithredwr parcio ddatgan ei ganiatâd.

Ad-delir arian yn ôl i’r cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu yn y lle cyntaf. Ni allwn roi sieciau nac ad-dalu i gyfrifon eraill yn unol â chyfreithiau Gwyngalchu Arian y DU.

Ym mhob achos, dylech gysylltu â gweithredwr y man parcio neu â gwasanaethau cwsmeriaid MiPermit a rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn iddynt allu trin eich cais yn gyflym.

Preswylwyr ac Ymwelwyr, Tocynnau Tymor, Ad-daliadau Trwyddedau Eithrio

Gweithredwr y man parcio sy’n penderfynu ynghylch ad-dalu’r trwyddedau hyn ai peidio. Dylech wneud cais am ad-daliad trwy weithredwr y man parcio neu dîm gwasanaethau cwsmer MiPermit a all drafod hyn â’r gweithredwr man parcio. Efallai y rhoddir ad-daliad pro rata i chi ac ychwanegir ffi weinyddol er mwyn gwneud yr ad-daliad, ond bydd hyn yn ddibynnol ar weithredwr y man parcio.