Skip to main content

Rheoli eich Trwyddedau Ymwelwyr

Trwyddedau digidol ar gyfer defnydd untro yw trwyddedau ymwelwyr, fel yr hen gardiau crafu yr arferai’r gweithredwyr parcio eu defnyddio. Gyda thrwyddedau ymwelwyr digidol, nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth yn y cerbyd oherwydd y gall y swyddogion patrôl ddefnyddio rhif cofrestru’r cerbyd i weld a oes trwydded ddilys ar ei gyfer.

Gallwch brynu ‘llyfrynnau’ o drwyddedau ymwelwyr ar sail pro-rata. Cewch ddyraniad o drwyddedau bob blwyddyn y gallwch eu prynu ar-lein yn ystod y flwyddyn hyd nes y defnyddiwch y cwbl ohonynt ac mae modd eu defnyddio yn syth ar ôl eu prynu. Nid oes rhaid i chi aros i lyfryn trwyddedau gyrraedd trwy’r post na’u casglu o swyddfa eich gweithredwr parcio.

I brynu trwyddedau ymwelwyr, dylech fynd i borthol cyffredinol MiPermit neu i borthol eich gweithredwr parcio a dewis ‘Prynu Trwyddedau Digidol’ a dilyn y broses at brynu. Bydd angen i chi roi manylion cerdyn talu er mwyn cwblhau’r prynu.

Defnyddio Trwyddedau Ymwelwyr trwy borthol MiPermit

Mewngofnodwch i’ch porthol MiPermit, ac o’r dewis ‘Rheoli Trwyddedau Digidol’ dewiswch Trwyddedau Ymwelwyr. Bydd angen i chi roi rhif cofrestru cerbyd eich ymwelydd a dewis y math ar drwydded ymwelydd rydych am ei defnyddio (os oes amryw fath gennych), dyddiad/amser gweithredu’r drwydded a hyd y cyfnod parcio. 

Defnyddio Trwyddedau Ymwelwyr trwy SMS

Gallwch hefyd ddefnyddio SMS i weithredu trwydded ymwelwyr os oes rhif ffôn symudol yn gysylltiedig â’ch cyfrif. 

Os oes gennych drwyddedau ymwelwyr i’w defnyddio ar eich cyfrif, gallwch anfon SMS (neges destun) i 61600 gyda’r (enghreifftiau) canlynol:

YMWELYDD    A123BCD    4hrs

Bydd hyn yn caniatáu i’ch ymwelydd sydd â’r cerbyd A123BCD barcio yn eich parth parcio am 4 awr. Sylwch y bydd y cyfnodau’n dibynnu ar eich gweithredwr parcio a’r trwyddedau sydd gennych.

Nid oes angen nodi cyfnod ar gyfer trwyddedau ymwelwyr rhai gweithredwyr parcio, edrychwch ar dudalennau porthol MiPermit eich gweithredwyr parcio am fanylion.

Defnyddio Trwyddedau Ymwelwyr dros y Ffôn

Gallwch hefyd ffonio er mwyn cofrestru ymwelydd. Gallwch ffonio gwasanaethau cwsmeriaid MiPermit neu efallai y bydd angen i chi ffonio llinell gymorth eich gweithredwr parcio. Bydd manylion hyn ar borthol MiPermit eich gweithredwr parcio.