Skip to main content

Rheoli eich Trwyddedau Preswylwyr

Mae eich Trwyddedau Preswylwyr (a thrwyddedau ymwelwyr) ynghlwm wrth eich cyfeiriad preswyl. Os nad ydych yn byw yn y cyfeiriad lle mae angen trwyddedau ar ei gyfer, siaradwch â’ch gweithredwr parcio.  Gyda thrwyddedau preswyl digidol, does dim angen i chi arddangos unrhyw beth yn y cerbyd oherwydd gall y swyddogion patrôl sicrhau bod trwydded ddilys gennych trwy wirio rhif cofrestru’r cerbyd.

I reoli eich trwyddedau preswylwyr, dylech fewngofnodi i borthol cyffredinol MiPermit neu borthol eich gweithredwr parcio a mynd i ‘Rheoli Trwyddedau Digidol’ a dewis Trwyddedau Preswylwyr. Gallwch newid rhif cofrestru cerbyd y mae’r drwydded yn ddilys ar ei chyfer (os yw’r gweithredwr parcio yn caniatáu hynny) ac adnewyddu unrhyw drwydded sy’n dod i ben.

Newid y Cerbyd ar eich Trwydded Preswylwyr

Dewiswch y drwydded rydych am ei newid a chliciwch ar ‘Addasu Rhifau Cofrestru’. Gallwch nodi’r rhif cofrestru newydd a chadw’r manylion a bydd yn newidiadau’n weithredol yn syth. Sylwch mai un rhif cofrestru cerbyd y dylech ei roi ym mhob blwch, gall ychwanegu mwy nag un rhif arwain i’r gweithredwr parcio gyflwyno HTC.

Os ydych yn addasu rhif cofrestru’r cerbyd ar drwydded, mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw’r hen gerbyd wedi ei barcio mewn man lle gall dderbyn HTC am fod heb drwydded ddilys. Mae’r newidiadau a wneir trwy borthol MiPermit yn weithredol yn syth ac ni ellir eu trefnu o flaen llaw. 

Sylwer:Nid yw newid neu addasu eich cerbydau yn adran ‘Aelodau a Cherbydau’ y porthol ond yn effeithio ar gerbydau Talu ac Aros ac nid yw’n newid y cerbyd sy’n dod dan y drwydded.

Adnewyddu eich Trwyddedau Preswylwyr

Os yw trwydded bron â dod i ben, byddwn yn nodi hyn ym mhorthol MiPermit. Os oes cyfeiriad e-bost yn gysylltiedig â’ch cyfrif, anfonwn e-bost atgoffa atoch hefyd ychydig wythnosau cyn y daw’r drwydded i ben. 

I adnewyddu’ch trwydded, mewngofnodwch i borthol cyffredinol MiPermit neu borthol y gweithredwyr parcio a chliciwch ar y faner adnewyddu neu’r bathodyn hysbysiad yn y ddewislen. Bydd rhestr o drwyddedau y gellir eu hadnewyddu i’w weld. Dewiswch y drwydded a chlicio ar ‘Adnewyddu’r Drwydded’. Bydd hyn yn cwblhau’r dudalen prynu trwydded yn awtomatig gyda’r holl fanylion sydd eu hangen yn ogystal â rhoi cyfle i chi wneud newidiadau. Bydd angen i chi roi manylion eich cerdyn talu er mwyn cwblhau’r adnewyddiad.