MiPermit Help
Talu am Barcio Heb Gyfrif ar iOS
Mae’r erthygl hon yn nodi’r gwahaniaethau rhwng talu am barcio pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif MiPermit a thalu am barcio heb gyfrif MiPermit. Am wybodaeth ynghylch defnyddio’r sgrin talu am barcio, ewch i Talu am Barcio gan ddefnyddio’r App iOS ond sylwch ar y cyfyngiadau a’r gwahaniaethau isod os nad ydych yn mewngofnodi.
Wrth dalu am barcio heb fewngofnodi i gyfrif, bydd yn rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol bob tro rydych am barcio:
- Lleoliad y parcio
- Amser cychwyn y cyfnod parcio
- Hyd cyfnod y parcio
- Rhif Cofrestru’r Cerbyd rydych yn talu am ei barcio
- Eich rhif ffôn symudol os ydych am dderbyn neges yn cadarnhau neu os ydych yn gofyn am SMS atgoffa.
- Eich cyfeiriad e-bost os ydych am dderbyn derbynneb TAW (os nad ydych yn rhoi hwn, ni fydd modd i ni anfon derbynneb atoch maes o law).
- Manylion eich cerdyn talu (os nad ydych yn defnyddio Apple Pay neu mewn lleoliad lle nad yw Apple Pay ar gael)
Os ydych am allu talu am bacio heb ail-ychwanegu eich manylion, dylech gofrestru am gyfrif neu drosglwyddo eich cyfnod parcio i gyfrif ar ddiwedd y broses dalu.
Cael yr App