Talu am Barcio gan ddefnyddio’r App Android

Gan ddechrau o’r sgrin Cyfnodau Parcio Actif, i dalu am barcio dylech glicio’r  botwm '+'. Aiff hyn â chi at y sgrin Creu Cyfnod Aros. Dylech gwblhau’r meysydd canlynol:

  • Cerbyd – Dewiswch o’ch rhestr gyfredol o gerbydau neu ychwanegwch gerbyd newydd.
  • Lleoliad – Dewiswch y lleoliad parcio.
  • Pryd - Naill ai talwch am barcio yn syth neu dewiswch ddiwrnod/amser parcio o flaen llaw.
  • Cyfnod – Dewiswch gyfnod parcio o’r prisiau sydd ar gael.
  • SMS Atgoffa – Os hoffech SMS atgoffa 20 munud cyn diwedd eich cyfnod, gallwch ddewis yr opsiwn hwn.

Cewch nodyn yn cadarnhau bod y taliad wedi ei gymryd a chewch eich anfon yn ôl at y sgrin Cyfnod Parcio Actif yn dangos manylion eich cyfnod a’r amser sydd yn weddill.

Sylwer:  Nid yw talu cyn cyrraedd y man parcio yn cadw lle nac yn sicrhau lle i chi yn y maes parcio.