Sut mae mewngofnodi i’r App Android

Os nad ydych wedi gwneud hynny, lawrlwythwch app MiPermit ar gyfer dyfeisiau Android o  Google Play Store

Wedi i chi lansio’r app, fe welwch y sgrîn fewngofnodi, oddi yma, gallwch roi eich Rhif ffôn/ E-bost/Enw defnyddiwr a’ch cod PIN/Cyfrinair i fewngofnodi. Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, defnyddiwch y ddolen ‘Wedi anghofio...’ ar y sgrin neu darllenwch yr erthygl ‘Ailosod cod PIN/Cyfrinair’.

Unwaith i chi fewngofnodi, eir â chi i’r sgrin Cyfnodau Parcio Actif sy’n dangos unrhyw gyfnodau aros sy’n mynd rhagddynt, neu’n caniatáu i chi greu cyfnod aros newydd i dalu am eich parcio.