Sut i Fewngofnodi i'r App iOS

Os nad ydych wedi gwneud hynny, lawrlwythwch app MiPermit ar gyfer dyfeisiau iOS o  Apple App Store

Wedi i chi lansio’r app, fe welwch y sgrin fewngofnodi, oddi yma, gallwch roi eich Rhif ffôn/ E-bost/Enw defnyddiwr a’ch cod PIN/Cyfrinair i fewngofnodi. Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, defnyddiwch y ddolen ‘Wedi anghofio...’ ar y sgrin neu darllenwch yr erthygl ‘Ailosod cod PIN/Cyfrinair’.

Os nad oes cyfrif MiPermit gennych a’ch bod ond yn dymuno talu am barcio a bod dim o’ch manylion wedi eu harbed, gallwch ddefnyddio’r ddolen ‘Chwilio Lleoliad...’ i fwrw ymlaen. Gweler ‘Talu am Barcio heb Gyfrif ar iOS' am fwy o wybodaeth.

Unwaith i chi fewngofnodi, eir â chi i’r sgrin Cyfnodau Parcio Actif sy’n dangos unrhyw gyfnodau aros sy’n mynd rhagddynt neu’n caniatáu i chi greu cyfnod aros newydd i dalu am eich parcio.