MiPermit Help
Rheoli eich Tocynnau Tymor
I reoli eich tocynnau tymor, mewngofnodwch i MiPermit porth byd-eang neu porth gweithredwyr parcio ar gyfer eich ardal
a chliciwch ar 'Rheoli Trwyddedau Digidol'. Dewiswch y math ar drwydded yr hoffech ei rheoli. Yma, cewch weld, adnewyddu neu addasu eich trwydded.
Gellir addasu tocynnau tymor trwy ddewis y drwydded; bydd hyn yn llwytho manylion y drwydded i chi eu newid. Mae rhan fwyaf y darparwyr tocynnau tymor yn caniatáu i chi newid y cerbyd sydd ar y tocyn tymor. Fel arfer mae hyn am ddim ac yn weithredol yn syth. Sylwch os yw cerbyd wedi ei barcio ar hyn o bryd mewn lleoliad gan ddefnyddio’r tocyn tymor a’ch bod yn newid y manylion cofrestru, ni fydd y cerbyd hwnnw wedi ei drwyddedu bellach a gall gweithredwr parcio gyflwyno dirwy.
Sylwer: Mae rhai gweithredwyr parcio’n codi tâl am addasu trwyddedau gweithredol ac felly ni fydd modd i chi wneud y newidiadau hyn ar-lein.
Un cerbyd yn unig y mae’r rhan fwyaf o docynnau tymor yn eu caniatáu ar drwydded. Peidiwch â cheisio ychwanegu mwy nag un rhif cofrestru cerbyd at drwydded un cerbyd oherwydd y gall hyn arwain at ddirwy gan y gweithredwr parcio.
Mae rhai gweithredwyr parcio’n caniatáu i sawl cerbyd fod dan un tocyn tymor. Os felly, bydd Cerbyd 1, Cerbyd 2 a.y.b. i’w gweld ar fanylion y drwydded. Dim ond un o’r cerbydau hyn gaiff barcio ar unrhyw adeg penodol .