MiPermit Help
Lawrlwytho Derbynneb
Os oes cyfrif gennych:
- Agorwch y MiPermit mewngofnodi.
- Rhowch eich rhif aelod (fel arfer eich rhif ffôn symudol neu gartref) a’ch cod PIN neu gyfrinair i fewngofnodi.
- O’r ddewislen, dewiswch ‘Hanes Talu’ i ddangos rhestr o’ch derbynebau.
Gallwch glicio ar unrhyw dderbynneb a lawrlwytho dogfen PDF neu lawrlwytho crynodeb taliadau gan ddefnyddio’r dewisyddion dyddiad.
Trwy ychwanegu cyfeiriad e-bost at eich manylion cyfrif, anfonwn y dderbynneb yn awtomatig drannoeth diwedd eich cyfnod parcio.
Os nad oes cyfrif gennych ac y defnyddioch y dewis parcio ‘achlysurol’ i dalu am eich parcio, dylech ychwanegu cyfeiriad e-bost adeg talu er mwyn cael derbynneb.
Tagged with
Cael yr App