Dewis Talu ac Aros Diofyn yn yr App Android

Gallwch osod nifer o opsiynau ar sgrin Manylion Cyfrif er mwyn gosod y dewisiadau diofyn rydych am eu defnyddio ar gyfer yr app MiPermit. Y rhain yw:

  • Dull Talu – Newid y cerdyn debyd neu gredyd y daw’r taliadau oddi arno.
  • Cerbyd – Gosod y cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio fel rheol
  • Lleoliad – Gosod y lleoliad y byddwch yn parcio ynddo fel rheol
  • Nodyn Atgoffa SMS – Derbyn negeseuon atgoffa SMS diofyn
  • Iaith – os yw’r gweithredwr parcio’n caniatáu, gallwch ddewis eich iaith.