Cyfnodau Aros Actif ar yr App iOS

Mae'r sgrîn Cyfnod Parcio Actif yn dangos unrhyw gyfnodau actif sydd gennych, eich man parcio a'r amser sydd ar ôl. 

Gallwch estyn eich cyfnod parcio (os yw'n bosibl yn ôl y man parcio) heb ddychwelyd at eich cerbyd, trwy ddewis aros actif a phwyso ar fotwm 'Estyn y cyfnod'. Os nad yw eich cyfnod wedi cychwyn eto (os ydych wedi bwcio eich parcio o flaen llaw) gallwch ei ganslo ac ni chodir tâl arnoch.

Gallwch greu cyfnod parcio newydd trwy bwyso ar y botwm '+' fel yn yr App iOS Talu am Barcio.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r canlynol trwy'r ddewislen bar ar ben y sgrîn:

  • Cyfnod actif
  • Chwilio mannau
  • Hanes talu
  • Gosodiadau'r app