MiPermit Help
Chwilio am leoliadau yn yr App Android
Mae pedwar dewis er mwyn gweld lleoliadau parcio ar y rhestr Lleoliadau, sef:
- Ffefrynnau – Lleoliadau a nodwyd fel hoff leoliadau gennych.
- Diweddar – Lleoliadau y buoch ynddynt o’r blaen
- Agos – Lleoliadau sy’n agos atoch (os ydych wedi caniatáu i app MiPermit ddefnyddio gwasanaethau lleoli ar eich dyfais) yn nhrefn eu pellter oddi wrthoch.
- Pob un – Bydd hwn yn rhestru pob lleoliad MiPermit ac yn eich caniatáu i chwilio’r rhestr gan ddefnyddio’r eicon chwilio.
Mae’r rhestrau’n dangos rhif y lleoliad (sydd hefyd ar y peiriannau talu a’r byrddau prisiau), enw a thref y lleoliad ac eicon gwybodaeth sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y lleoliad a’r prisiau. Bydd dewis y rhes yn dewis y lleoliad hwnnw ar gyfer parcio.
Sgrin Manylion Lleoliad
Wrth glicio ar yr eicon gwybodaeth, cewch fanylion y lleoliad, megis:
- Map yn dangos y lleoliad
- Cyfeiriad a chod post y lleoliad (y cod post agosaf ato)
- Yr eicon hoff le (Seren) i roi hwn yn eich rhestr hoff leoliadau.
- Rhestr brisiau ac oriau gweithredu
Cael yr App