Skip to main content

Sut mae prynu Trwydded eithrio

Gellir prynu trwyddedau eithrio neu drwyddedau gollwng trwy borthol cyffredinol MiPermit neu trwy borthol MiPermit y gweithredwyr parcio. 

Mae’r trwyddedau eithrio yn caniatáu i chi barcio mewn mannau lle mae cyfyngiadau megis llinellau melyn neu gilfachau parcio. Mae’n bwysig eich bod yn darllen amodau’r Drwydded eithrio cyn gwneud cais am un. 

Mae rhai gweithredwyr parcio’n gofyn am dystiolaeth preswylio er mwyn rhoi trwydded eithrio neu efallai eu bod wedi dewis cadarnhau ceisiadau am drwydded eithrio fesul un. Bydd porthol y gweithredwr parcio yn nodi’r broses gymeradwyo a’r amser a gymerir i wneud hynny.

Wrth ddefnyddio hawlildiad rhaid i chi gadw at y telerau parcio er mwyn i'r hawlildiad fod yn ddilys.