Skip to main content

Prynu Tocynnau Tymor

Mae Tocynnau Tymor yn caniatáu i chi barcio mewn lleoliadau trwy wneud un taliad am gyfnod o hyd at flwyddyn ar y tro. Yn aml, bydd hyn yn rhatach na thalu bob dydd.

Yn dibynnu ar y gweithredwr parcio a’r lleoliad, mae’n bosibl y bydd nifer cyfyngedig o docynnau tymor ar gael. Os felly, dylech gysylltu â’r gweithredwr parcio i roi eich enw ar restr aros.

I brynu tocyn tymor, gallwch fynd i borthol cyffredinol MiPermit neu i borthol y gweithredwr parcio, cliciwch ar ‘Prynu Trwyddedau Digidol’ a dewiswch y math ar drwydded sydd ei hangen arnoch. Gofynnir i chi am wybodaeth megis rhif cofrestru eich cerbyd a’ch manylion cyswllt, yn ogystal â manylion eich cerdyn talu i gwblhau eich taliad. Sicrhewch eich bod yn darllen y telerau ac amodau prynu a defnyddio i sicrhau y bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer eich anghenion.

Gallwch hefyd ‘Reoli’ eich trwyddedau; mae manylion gwneud hynny ar gael yn yr erthygl ‘Rheoli eich Tocynnau Tymor’.