Skip to main content

Talu am Barcio Heb Gyfrif ar iOS

Mae’r erthygl hon yn nodi’r gwahaniaethau rhwng talu am barcio pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif MiPermit a thalu am barcio heb gyfrif MiPermit. Am wybodaeth ynghylch defnyddio’r sgrin talu am barcio, ewch i Talu am Barcio gan ddefnyddio’r App iOS ond sylwch ar y cyfyngiadau a’r gwahaniaethau isod os nad ydych yn mewngofnodi.

Wrth dalu am barcio heb fewngofnodi i gyfrif, bydd yn rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol bob tro rydych am barcio:

  • Lleoliad y parcio
  • Amser cychwyn y cyfnod parcio
  • Hyd cyfnod y parcio
  • Rhif Cofrestru’r Cerbyd rydych yn talu am ei barcio
  • Eich rhif ffôn symudol os ydych am dderbyn neges yn cadarnhau neu os ydych yn gofyn am SMS atgoffa.
  • Eich cyfeiriad e-bost os ydych am dderbyn derbynneb TAW (os nad ydych yn rhoi hwn, ni fydd modd i ni anfon derbynneb atoch maes o law).
  • Manylion eich cerdyn talu (os nad ydych yn defnyddio Apple Pay neu mewn lleoliad lle nad yw Apple Pay ar gael)

Ni fyddwch yn gallu defnyddio'r nodweddion canlynol os nad oes gennych gyfrif llawn:

  • Ffefrynnau a marcio lleoliadau fel ffefryn.
  • Nid yw'n bosibl ymestyn arhosiad presennol.
  • Hanes talu a lawrlwytho derbynebau.
  • Ni fydd gosodiadau cyfrif amrywiol a gosodiadau ap ar gael.

Os ydych am allu talu am bacio heb ail-ychwanegu eich manylion, dylech gofrestru am gyfrif neu drosglwyddo eich cyfnod parcio i gyfrif ar ddiwedd y broses dalu.