Talu am Barcio gan ddefnyddio'r App iOS
Gan ddechrau o'r map Talu ac Aros, i dalu am barcio dylech ddewis lleoliad o'r map neu o un o'r rhestrau lleoliadau. Bydd hyn yn mynd â chi i'r sgrin Creu Arhosiad. Dylech gwblhau'r meysydd canlynol:
- Cerbyd – Dewiswch o’ch rhestr gyfredol o gerbydau neu ychwanegwch gerbyd newydd.
- Lleoliad – Dewiswch y lleoliad parcio.
- Pryd - Naill ai talwch am barcio yn syth neu dewiswch ddiwrnod/amser parcio o flaen llaw.
- Cyfnod – Dewiswch gyfnod parcio o’r prisiau sydd ar gael. Os nad yw'r lleoliad wedi dechrau codi tâl eto, newidiwch 'Ar unwaith' i 'Heddiw' a dewiswch amser agor y lleoliad.
- SMS Atgoffa – Os hoffech SMS atgoffa 20 munud cyn diwedd eich cyfnod, gallwch ddewis yr opsiwn hwn.
- Dewisiadau Talu – Gallwch un ai dalu gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd, neu ddefnyddio Apple Pay (mewn rhai lleoliadau)
Cewch nodyn yn cadarnhau bod y taliad wedi ei gymryd a chewch eich anfon yn ôl at y sgrin Cyfnod Parcio Actif yn dangos manylion eich cyfnod a’r amser sydd yn weddill.
Sylwer: Nid yw talu cyn cyrraedd y man parcio yn cadw lle nac yn sicrhau lle i chi yn y maes parcio.