Skip to main content

Parcio Talu ac Aros trwy’r We

Gallwch ddefnyddio porthol cyffredinol MiPermit neu borthol eich gweithredwr parcio i dalu am barcio ar y stryd ac mewn meysydd parcio lle caniateir hynny. Mae’r porthol yn gweithio ar ffonau symudol felly os nad ydych am ddefnyddio SMS na’r app ffonau clyfar, gallwch ddefnyddio gwefan y porthol i dalu.

Wrth gyrraedd lleoliad, chwiliwch am rif y lleoliad a fydd ar y peiriannau Talu ac Arddangos neu’r byrddau prisiau. Agorwch eich porwr ac ewch i’r porthol cywir. Os oes gennych gyfrif, mewngofnodwch a chliciwch ar ‘Talu am Barcio’, neu os nad ydych am greu cyfrif, cewch ddefnyddio’r dewis ‘Talu am Barcio heb Fewngofnodi’. Mae’r ddwy broses yn debyg, fodd bynnag mae rhai cyfyngiadau ynghlwm wrth dalu heb gyfrif, fel y nodir isod.

Talu am Barcio gyda Chyfrif

Wedi i chi fewngofnodi a mynd i dudalen ‘Talu am Barcio’ gallwch ddefnyddio’r meysydd canlynol:

  • Cerbyd – Dewiswch gerbyd o’ch cyfrif (cewch ychwanegu cerbydau newydd trwy’r dewis ‘Aelodau a Cherbydau’)
  • Lleoliad – Dewiswch neu chwiliwch am y lleoliad rydych am dali i barcio ynddo.
  • Pryd – Naill ai talwch am barcio yn syth neu dewiswch ddiwrnod/amser parcio hyd at 7 diwrnod o flaen llaw. Nid yw talu cyn cyrraedd y man parcio yn cadw lle nac yn sicrhau lle i chi yn y maes parcio.
  • Cyfnod – Dewiswch eich cyfnod parcio
  • Neges Atgoffa – Gallwch ddewis derbyn SMS i’ch ffôn symudol cofrestredig 20 munud cyn diwedd y cyfnod aros.
    Gallwch hefyd weld y bwrdd prisiau ar gyfer y lleoliad a ddewisoch ac o’r wybodaeth brisiau cewch weld map yn dangos lle mae’r man parcio.
    Ar ôl i chi dalu, bydd y sgrin yn dangos eich cyfnod aros cyfredol a’r amser sydd yn weddill.
     

Talu am Barcio ‘heb’ Gyfrif

Cliciwch ar y dewis ‘Talu am Barcio heb fewngofnodi’ a chewch ddefnyddio’r meysydd canlynol:

  • Lleoliad – Dewiswch neu chwiliwch am y lleoliad rydych am barcio ynddo.
  • Pryd – Naill ai talwch am barcio yn syth neu dewiswch ddiwrnod/amser parcio hyd at 7 diwrnod o flaen llaw.  Nid yw talu cyn cyrraedd y man parcio yn cadw lle nac yn sicrhau lle i chi yn y maes parcio.
  • Cyfnod – Dewiswch eich cyfnod parcio.
  • Cerbyd - Nodwch rif cofrestru’r cerbyd rydych am ei barcio.
  • Rhif Ffôn Symudol – os ydych am dderbyn neges atgoffa neu gadarnhad drwy SMS, bydd angen eich rhif ffôn arnom.
  • Neges Atgoffa – Gallwch ddewis derbyn SMS i’ch ffôn symudol cofrestredig 20 munud cyn diwedd y cyfnod aros.
  • Cyfeiriad e-bost – os oes angen derbynneb TAW arnoch, mae’n rhaid i chi roi eich cyfeiriad e-bost er mwyn ei dderbyn trwy e-bost. Os nad ydych yn rhoi cyfeiriad e-bost yma, ni fydd modd i ni anfon derbynneb atoch.
  • Manylion y Cerdyn Talu – Er mwyn cwblhau’r broses dalu, rhowch fanylion eich cerdyn talu.

Sylwch y bydd talu am barcio heb gyfrif yn golygu eich bod yn ‘talu ac anghofio’. Bob tro byddwch yn defnyddio’r opsiwn hwn, bydd angen i chi roi manylion eich cerbyd a cherdyn talu os nad oes cyfrif gennych.