Parcio gan ddefnyddio SMS
Defnyddio parcio heb arian parod am y tro cyntaf
Anfonwch SMS i 61600 gyda’r gair PARCIO a rhif cofrestru eich cerbyd.
Er enghraifft:
PARCIO T123EST
Bydd ein system awtomatig yn rhoi galwad yn ôl i chi i gael y wybodaeth ganlynol.
- Rhif lleoliad maes parcio
- Manylion eich cerdyn talu
- Holi a ydych yn dymuno derbyn SMS atgoffa 20 munud cyn diwedd y cyfnod
Os cewch drafferth gyda’r broses ar unrhyw adeg, arhoswch ar y ffôn neu pwyswch yr allwedd seren a chewch eich trosglwyddo i aelod o dîm MiPermit a fydd yn gallu eich cynorthwyo drwy weddill y broses.
Wedi i chi gofrestru, anfonir rhif PIN atoch i’w ddefnyddio gyda’ch cyfrif. Caiff y PIN/cyfrinair ei ddefnyddio ar gyfer mewngofnodi i borthol MiPermit, neu wrth ddefnyddio’r ffôn i greu cyfnodau aros pan na fyddwch yn defnyddio’r ffôn a ddefnyddioch adeg cofrestru.
Sylwch y gall cost SMS i 61600 amrywio yn dibynnu ar ddarparwr eich rhwydwaith. Cysylltwch â’ch darparwr am fwy o wybodaeth.
Cwsmeriaid sydd eisoes wedi cofrestru
Wrth gyrraedd maes parcio sy’n rhan o’r cynllun, anfonwch SMS (neges destun, nid MMS nac e-bost) i 61600 gyda’r gair PARCIO gyda rhif y lleoliad a hyd y cyfnod mewn oriau neu funudau.
Er enghraifft:
PARCIO 702233 30mins
PARCIO 702233 2hrs
PARCIO 702233 1day
Os dymunwch barcio am ran o awr, ac mae’r lleoliad yn cynnig hynny, dylech nodi’r cyfnod mewn munudau.
Er enghraifft, am gyfnod o awr a hanner:
PARCIO 702233 90mins
Os dymunwch ychwanegu cerbyd newydd at eich cyfrif, neu os oes mwy nag un cerbyd ar eich cyfrif eisoes, gallwch ddewis cerbyd drwy ychwanegu’r rhif cofrestru ar ddiwedd yr SMS.
Er enghraifft:
PARCIO 702233 30mins T123EST
PARCIO 702233 2hrs T123EST
Sylwch, pan fo mwy nag cerbyd ar eich cyfrif, bydd angen i chi ychwanegu rhif cofrestru’r cerbyd y dymunwch ei barcio at bob neges er mwyn i’r system wybod pa gerbyd rydych yn ei ddefnyddio. Os na wnewch hyn, bydd y system yn defnyddio’r cerbyd diweddaraf a ychwanegwyd gennych.
Estyn eich arhosiad drwy SMS
Os oes angen i chi estyn eich cyfnod, gallwch wneud hynny drwy SMS neu drwy fewngofnodi ar borthol MiPermit. I estyn eich cyfnod, anfonwch SMS i 61600 gyda’r gair ESTYN a hyd y cyfnod estyn.
Er enghraifft:
ESTYN 30mins
ESTYN 1hr
Ni fydd modd i chi greu estyniad sy’n hwy nag oriau agor y lleoliad neu os oes uchafswm hyd arhosiad yn y man parcio.