Skip to main content

Costau Parcio Talu ac Aros gyda MiPermit

Cardiau talu a ffioedd cyfleustra (costau)

Mae’n bosibl yr ychwanegir ffi cyfleustra at gost eich parcio yn dibynnu ar weithredwr y maes parcio a’ch lleoliad parcio. Nid yw pob lleoliad yn codi ffi, ond mae rhai yn gwneud.

Os oes ffi cyfleustra, dylai hyn fod wedi ei amlygu ar y sticeri MiPermit ar y peiriannau Talu ac Arddangos neu ar y bwrdd prisiau.

Wrth dalu am barcio gydag un o’n appiau ffôn clyfar neu borthol ar-lein, rhestrir y ffi cyfleustra ar y sgrîn dalu cyn i chi awdurdodi’r taliad.

Nodyn Pwysig
Wrth ychwanegu cerdyn talu i’w ddefnyddio gyda pharcio Talu ac Aros MiPermit; mae’n rhaid i ni sicrhau bod manylion y cerdyn yn ddilys ac y gellir creu rhif ‘cyfeirnod talu aml-dro’ fel na fydd yn rhaid i chi roi manylion eich cerdyn talu bob tro rydych yn defnyddio’r system i barcio.

Wrth wneud y prawf ar y cerdyn, gwneir cais am dâl o 10c ac yna caiff ei ganslo; fel arfer nid yw’n dangos ar eich cyfrif banc, fodd bynnag, mae rhai banciau’n dangos y profion 10c hyn fel ‘trafodion sy’n mynd rhagddynt’ ar yr appiau bancio. Os gwelwch hyn ar eich app bancio, byddwch yn ymwybodol y caiff y cais ei ganslo’n syth ac na chymerir arian, ond efallai y cymer ambell ddiwrnod hyd nes iddo ddiflannu oddi ar eich rhestr trafodion sy’n mynd rhagddynt.

Os oes cwestiynau gennych am y prawf cerdyn, cysylltwch â Thîm MiPermit i gael mwy o fanylion.

Costau SMS (negeseuon testun)

Nid yw anfon neges destun er mwyn talu am barcio’n costio mwy na chost neges arferol eich rhwydwaith. Fel arfer tua10c y neges yw hyn. Nid yn anfon neges at gôd byr (61600) yn gynwysedig yn eich pecyn ffôn symudol. Dylech gadarnhau hyn gyda darparwr eich ffôn symudol.

Nid ydym yn cymryd taliad am barcio o’ch cyfrif ffôn symudol. Nid oes modd i ni gymryd taliad drwy’r dull hwn.

Bydd negeseuon testun atgoffa dewisol (20 munud cyn diwedd eich cyfnod parcio) yn costio 10c yr un, a’u hychwanegu at gyfanswm cost y parcio.

Costau galwadau i rifau 0345 neu 0333

I ffonio ein tîm gwasanaethau cwsmer neu i dalu am eich parcio trwy ein system ffôn awtomataidd,   codir tâl am y galwadau gan eich darparwr ffôn symudol ar eu cyfradd genedlaethol arferol.

Cynhwysir cost y galwadau hyn yn y pecyn munudau symudol a all fod gennych.

Mae cost y galwadau hyn wedi'u cynnwys mewn unrhyw becyn munudau symudol sydd gennych.