Skip to main content

Chwilio am Leoliadau yn yr App iOS

Mae pedwar dewis er mwyn gweld lleoliadau parcio ar y rhestr Lleoliadau, sef:

  • Ffefrynnau – Lleoliadau a nodwyd fel hoff leoliadau gennych.
  • Diweddar – Lleoliadau y buoch ynddynt o’r blaen
  • Agos – Lleoliadau sy’n agos atoch (os ydych wedi caniatáu i app MiPermit ddefnyddio gwasanaethau lleoli ar eich dyfais) yn nhrefn eu pellter oddi wrthoch.
  • Pob un – Bydd hwn yn rhestru pob lleoliad MiPermit ac yn eich caniatáu i chwilio’r rhestr gan ddefnyddio’r eicon chwilio.

Mae’r rhestrau’n dangos rhif y lleoliad (sydd hefyd ar y peiriannau talu a’r byrddau prisiau), enw a thref y lleoliad, logo Apple Pay os yw’r lleoliad yn derbyn taliadau Apple Pay, ac eicon gwybodaeth sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y lleoliad a’r prisiau. Bydd dewis y rhes yn dewis y lleoliad hwnnw ar gyfer parcio.

Sgrin Manylion Lleoliad

Wrth glicio ar yr eicon gwybodaeth, cewch fanylion y lleoliad, megis:

  • Map yn dangos y lleoliad
  • Cyfeiriad a chod post y lleoliad (y cod post agosaf ato)
  • Yr eicon hoff le (Seren) i roi hwn yn eich rhestr hoff leoliadau.
  • Rhestr brisiau ac oriau gweithredu

Drwy gyffwrdd y pin ar y map, bydd hyn yn ehangu’r pin map a dangos eicon map, bydd cyffwrdd yr eicon map yn dangos eich lleoliad parcio a’ch safle ar hyn o bryd, a bydd yr eicon map yn newid yn eicon cyfeirio a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ddychwelyd i’r lleoliad parcio os bydd angen cymorth i ddychwelyd i’ch cerbyd arnoch.